Matthew 13:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pa pryd pynac y clyw nep ’air, y Deyrnas, ac ef eb ei ðyall, e ddaw’r Drwc, ac ysclyf fia ’r hyn a heuwyt yn ei galon ef: a’ hwn yw ef a gymerth yr had ar vin y ffordd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob un y sydd yn clywed gair y deyrnas, ac nad yw yn deall, dyfod y mae’r drwg, ac yn cipio yr hyn a hauwyd yn ei galon ef; hwn yw’r hyn a hauwyd ar ymyl y ffordd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan glywo neb air y deyrnas a heb ei ddeall, fe ddaw’r un drwg, a chipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Hwn yw’r un a heuwyd ar fin y ffordd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae'r drwg yn dyfod, ac yn cipio'r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma'r hwn a heuwyd ar fin y ffordd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae rhywun yn clywed y neges am y deyrnas a ddim yn deall, mae'r Un drwg yn dod ac yn cipio beth gafodd ei hau yn y galon. Dyna'r had ddisgynnodd ar y llwybr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fydd unrhyw un yn clywed gair y deyrnas heb ei ddeall, daw'r Un drwg a chipio'r hyn a heuwyd yn ei galon. Dyma'r un sy'n derbyn yr had ar hyd y llwybr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan glywo neb air y Deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae yr Un Drwg yn dyfod ac yn cipio yr hyn sydd wedi ei hau yn ei galon ef. Dyma yr hwn a hauwyd ar fin y ffordd.