Matthew 13:2 — Compare Translations

6 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thorfoedd lawer ion a ymgynullent attaw, yn yd aeth ef i long, ac eistedd: a’r oll dorf a safawdd ar y lan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chasglwyd Atto dorfeydd mawrion, fel y bu Iddo fyned i gwch ac eistedd yno; a’r holl dyrfa, ar y lan y safai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef, fel yr aeth efe i'r llong, ac yr eisteddodd: a'r holl dyrfa a safodd ar y lan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd cymaint o dyrfa wedi casglu o'i gwmpas nes bod rhaid iddo fynd i eistedd mewn cwch tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth tyrfaoedd mawr ynghyd ato, nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch, ac yr oedd yr holl dyrfa yn sefyll ar y lan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a thorfeydd lawer a ymgynnullasant ato ef, fel yr aeth efe i gwch, ac yr eisteddodd; a'r holl dyrfa oedd yn sefyll ar y traeth.