Matthew 13:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hwn a gymerth had yn y tir caregawc, yw’r vn a wrendy’r gair, ac yn ebrwydd drwy lewenydd ei d erbyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr hwn a hauwyd ar y creigleoedd, hwn yw’r un sy’n clywed y Gair, ac yn uniawn gyda llawenydd yn ei dderbyn ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r un a heuwyd ar y creigleoedd, hwn yw’r un a glyw’r gair ac yn ebrwydd gyda llawenydd a’i derbyn ef;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw'r hwn sydd yn gwrando'r gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr had sy'n syrthio ar dir creigiog ydy'r sawl sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r un sy'n derbyn yr had ar leoedd creigiog, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei dderbyn ar ei union yn llawen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hwn a hauwyd ar y creigleoedd, efe yw yr hwn sydd yn gwrando y gair, ac yn y fan gyda llawenydd yn ei dderbyn;