Matthew 13:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nid oes hagen wreiddin ynthaw ehun, a’ thros enhyd yw: can ys er cynted y daw trallod nei ga n lyn o bleit y gair, yn y van y rhwystrir ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr am amser y mae; ac wedi digwydd gorthrymder neu erlid oblegid y Gair, yn uniawn y tramgwyddir ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo’i hun, eithr dros amser y mae, a phan ddêl gwasgfa neu erlid o achos y gair; yn ebrwydd y rhwystrir ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dydy'r neges ddim yn gafael yn y person go iawn, ac felly dydy e ddim yn para'n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am ei fod wedi credu, mae'n troi cefn yn ddigon sydyn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo'i hunan, a thros dro y mae'n para; pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwymp ar unwaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr am dymhor y mae; a phan ddelo gorthrymder neu erlid o herwydd y gair, yn y fan efe a rwystrir.