Matthew 13:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hwn a dd erbyn yr had ymplith y drain, yw’r vn a wrendy’r gair: a nyd gofal y byd hwn, ac ehudrwydd golud, a dag y gair, ac ef a wnaethpwyt yn ddiffrwyth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hwn a hauwyd ymhlith y drain, hwn yw’r hwn sy’n clywed y Gair; a phryder bywyd a thwyll golud sy’n tagu’r Gair, ac yn ddiffrwyth y mae efe yn myned.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r un a heuwyd yn y drain, hwn yw’r un a glyw’r gair, a phryder y byd a hudoliaeth golud a dag y gair, a diffrwyth fydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a heuwyd ymhlith y drain, yw'r hwn sydd yn gwrando'r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu'r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn yr had syrthiodd i ganol drain ydy'r sawl sy'n clywed y neges, ond mae'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall ac yn ceisio gwneud arian. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn ei fywyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr un sy'n derbyn yr had ymhlith y drain, dyma'r un sy'n clywed y gair, ond y mae gofal y byd hwn a hudoliaeth golud yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hwn a hauwyd yn mhlith y drain, efe yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair; ac y mae pryder y byd a thwyll cyfoeth yn tagu y gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth.