Matthew 13:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A nd hwn a gymerth yr had yn y tir da, yw’r vn a wrendy’r gair, ac ei dyall, yr vn hefyd a ffrwytha, ac ei dwc, vn ar ei ganfet, arall ar ei drugeinfet, ar‐all ar ei ddecfet ar ugain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yr hwn a hauwyd yn y tir da, hwn yw’r hwn sy’n clywed y Gair ac yn deall; yr hwn, yn wir, sy’n ffrwytho, ac yn dwyn, peth ei ganfed, ac arall ei dri-ugeinfed, ac arall ei ddegfed ar hugain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r un a heuwyd ar y tir da, hwn yw’r un a glyw’r gair ac a’i deall, a hwnnw a ddwg ffrwyth ac a rydd beth gant, peth drigain, a pheth ddeg ar hugain.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw'r hwn sydd yn gwrando'r gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yr had sy'n syrthio ar dir da ydy'r sawl sy'n clywed y neges ac yn ei deall. Mae'r effaith fel cnwd anferth — can gwaith neu chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na gafodd ei hau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r un sy'n derbyn yr had ar dir da, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei ddeall, ac yn dwyn ffrwyth ac yn rhoi peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr hwn a hauwyd ar y tir da, hwn yw efe sydd yn gwrando y gair, ac yn ei ddeall; yr hwn yn wir sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.