Matthew 13:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a ddaeth gweision gwr y tuy, ac a ddywedesont wrthaw, Arglwydd, a‐ny heaist ti had da yn dy vaes? O b’le gan hyny y mae ynddo yr efrae?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod atto, gweision gŵr y tŷ a ddywedasant wrtho, Arglwydd, onid had da a heuaist yn dy faes? O ba le, gan hyny, y mae ganddo efrau?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddaeth gweision y penteulu dywedasant wrtho, ‘Meistr, onid had da a heuaist yn dy faes? o ba le, ynteu, y mae iddo efrau?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni heuaist ti had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae'r efrau ynddo?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Daeth gweision y ffermwr ato a dweud, ‘Feistr, onid yr had gorau gafodd ei hau yn dy gae di? O ble mae'r holl chwyn yma wedi dod?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth gweision gu373?r y tu375? a dweud wrtho, 'Syr, onid had da a heuaist yn dy faes? O ble felly y daeth efrau iddo?'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gweision gwr y ty a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, onid had da a hauaist di yn dy faes? O ba le gan hyny y daeth efrau?