Matthew 13:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yntef a ddyvot wrthynt, Y gelyn‐ddyn a wnaeth hynn. A’r gweision a ddyvot wrthaw, A ewyllysy di i ni vyned a’ei cascly wynt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yntau a ddywedodd wrthynt, Gelyn o ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A ewyllysi di, gan hyny, fyned o honom a’u casglu hwynt?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ebe yntau wrthynt, ‘Gŵr o elyn a wnaeth hyn.’ Ac medd y gweision wrtho, ‘A fynni di, ynteu, i ni fynd i’w casglu hwynt?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a'u casglu hwynt?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Rhywun sy'n fy nghasáu i sy'n gyfrifol am hyn’ meddai. “‘Felly, wyt ti am i ni fynd i godi'r chwyn?’ meddai ei weision.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau, 'Gelyn a wnaeth hyn.' Meddai'r gweision wrtho, 'A wyt am i ni fynd allan a chasglu'r efrau?'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yntau a ddywedodd wrthynt, Dyn sydd elyn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddywedant wrth, A fyni di gan hyny i ni fyned ymaith a'u casglu hwynt?