Matthew 13:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr adroddawdd ef wrthwynt lawer o bethae drwy barablae, gan dywedyt, Nycha, ydd aeth heuwr ymaith i he heu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A llefarodd lawer o bethau mewn damhegion, gan ddywedyd, Wele, aeth hauwr allan i hau:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A llefarodd wrthynt lawer ar ddamhegion gan ddywedyd, “Wele, aeth yr heuwr allan i hau;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr heuwr a aeth allan i hau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn defnyddio llawer o straeon i rannu ei neges gyda nhw: “Aeth ffermwr allan i hau had.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe lefarodd lawer wrthynt ar ddamhegion, gan ddweud: "Aeth heuwr allan i hau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau mewn dammegion, gan ddywedyd, Wele, yr hauwr a aeth allan i hau;