Matthew 13:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gedwch ir ddau gyddtyfu, hyd y cynayaf, ac yn amser y cynayaf y dywedaf wrth y vedel, Cesclwch yn gyntaf yr efrae, a’ rhwymwch yn yscupae y’w lloscy: a’ chesclwch y gwenith i’m yscupawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gadewch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf; ac yn amser y cynhauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau er mwyn eu llosgi; ond y gwenith cesglwch i’m hysgubor.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gedwch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhaeaf; ac yn amser y cynhaeaf mi ddywedaf wrth y medelwyr, ‘Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn sypiau i’w llosgi, ond crynhowch yr ŷd i’m hysgubor’.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gadewch i'r ddau gyd‐dyfu hyd y cynhaeaf: ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i'w llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gadewch i'r gwenith a'r chwyn dyfu gyda'i gilydd. Wedyn pan ddaw'r cynhaeaf bydda i'n dweud wrth y rhai fydd yn casglu'r cynhaeaf: Casglwch y chwyn gyntaf, a'u rhwymo'n fwndeli i'w llosgi; wedyn cewch gasglu'r gwenith a'i roi yn fy ysgubor.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gadewch i'r ddau dyfu gyda'i gilydd hyd y cynhaeaf, ac yn amser y cynhaeaf dywedaf wrth y medelwyr, "Casglwch yr efrau yn gyntaf, a rhwymwch hwy'n sypynnau i'w llosgi, ond crynhowch yr u375?d i'm hysgubor."'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gadewch i'r ddau gyd‐dyfu hyd y cynauaf; ac yn nhymhor y cynauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau er eu llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.