Matthew 13:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Parabol arall a roddes ef yddwynt, gan dywedyt, Cyffelip yw Teyrnas nefoedd i ’ronyn o had mustard, yr hwn a gymer dyn a’ ei heuha yn ei vaes,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dammeg arall a osododd Efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn ac a’i hauodd yn ei faes;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dameg arall a osododd ef ger eu bron, gan ddywedyd, “Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn mwstard, a gymerth dyn a’i hau yn ei faes;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a'i heuodd yn ei faes:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei gae.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma ddameg arall a gyflwynodd iddynt: "Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i hedyn mwstard, a gymerodd rhywun a'i hau yn ei faes.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dammeg arall a osododd efe o'u blaen, gan ddywedyd, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i ronyn mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a'i hauodd yn ei faes.