Matthew 13:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ys yr hwn ’sy ’leiaf o’r oll hadae: anyd gwedy tyfo, mwyaf vn or llysae ytyw, a’ phren vydd, yd ’n y ddel ehediait y nef a nythy yn ei gangae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn yn wir sydd llai na’r holl hadau, ond wedi tyfu o hono, mwy yw na’r llysiau, ac yn myned yn bren fel y daw ehediaid y nef ac y llettyant yn ei gangau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
hwnnw, lleiaf yw o’r holl hadau; ond pan dyfo, mwy na’r llysiau yw, ac fe ddaw’n bren nes dyfod adar yr awyr, a nythu yn ei gangau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn yn wir sydd leiaf o'r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o'r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er mai dyma'r hedyn lleia un, mae'n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae'n tyfu'n goeden y gall yr adar ddod i nythu yn ei changhennau!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r lleiaf o'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, ef yw'r mwyaf o'r holl lysiau, a daw yn goeden, fel bod adar yr awyr yn dod ac yn nythu yn ei changhennau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn yn wir sydd lai nâ'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, y mae yn fwy nâ'r llysiau, ac yn dyfod yn bren, fel y mae adar y nef yn dyfod ac yn ymlochesu yn ei gangau ef.