Matthew 13:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Parabol arall a ddyvot ef wrthwynt, gan ddyvvedyt, Cyffelip yw teyrnas nefoedd y surdoes, yr hwn a gymer gwraic ac ei cuð mewn tri pheccet o vlawt, yn y sura oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dammeg arall a lefarodd Efe wrthynt, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig ac a’i cuddiodd mewn tri seah o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dameg arall a lefarodd ef wrthynt: “Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes a gymerth gwraig a’i guddio mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dameg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd stori arall eto: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd a'i gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llefarodd ddameg arall wrthynt: "Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dammeg arall a lefarodd efe wrthynt, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i lefain, yr hwn a gymmerodd gwraig ac a'i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl.