Matthew 13:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yd anfonawdd yr Iesu y dorf ymaith, ac ydd aeth ir tuy. A’ ei ddiscipulon a ddaeth attaw, can ddywedyt, Deongl i ni barabol efre yr maes.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna wedi gadael y torfeydd, yr aeth i’r tŷ; a daeth Ei ddisgyblion Atto, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau’r maes.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna wedi gollwng y tyrfaoedd, fe aeth i’r tŷ. A daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, “Eglura i ni ddameg efrau’r maes.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i'r tŷ: a'i ddisgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura i ni ddameg efrau'r maes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gadawodd Iesu y dyrfa a mynd i mewn i'r tŷ. Aeth ei ddisgyblion i mewn ato a gofyn iddo, “Wnei di esbonio'r stori am y chwyn i ni?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, wedi gollwng y tyrfaoedd, daeth i'r tu375?. A daeth ei ddisgyblion ato a dweud, "Eglura i ni ddameg yr efrau yn y maes."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y gadawodd efe y torfeydd ac a aeth i'r ty; a'i Ddysgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau y maes.