Matthew 13:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’r maes yw’r byd, a’r had da, wyntwy yw plant y deyrnas, a’r efrae ynt blant y Drwc,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r maes yw’r byd; a’r had da, y rhai hyn yw meibion y deyrnas; a’r efrau yw meibion y drwg;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’r maes yw’r byd; yr had da, y rhain yw meibion y deyrnas, a’r efrau yw meibion yr un drwg,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r maes yw'r byd; a'r had da, hwynt‐hwy yw plant y deyrnas; a'r efrau yw plant y drwg;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y byd ydy'r cae, ac mae'r hadau da yn cynrychioli'r bobl sy'n perthyn i'r deyrnas. Y bobl sy'n perthyn i'r un drwg ydy'r chwyn,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maes yw'r byd. Yr had da yw plant y deyrnas; yr efrau yw plant yr Un drwg,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'r maes yw y byd; a'r had da, hwynthwy yw meibion y Deyrnas; a'r efrau yw meibion yr Un Drwg;