Matthew 13:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val ydd oedd ef yn he heu, y cwympodd ’rei or had ym‐min y ffordd, ac a ddaeth yr ehediait ac y difaodd wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wrth hau o hono, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wrth iddo hau, syrthiodd rhai o’r had ar fin y ffordd, a daeth yr adar a’u difa.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a'r adar a ddaethant, ac a'i difasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac fel yr oedd efe yn hau, peth hadau a syrthiasant ar fin y ffordd; a'r adar a ddaethant ac a'u difasant;