Matthew 13:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Trachefyn cyffelyp yw teyrnas nefo edd i dresawr cudd iedic mewn maes, yr hwn wedy y ddyn ei gaffael, ef ei cudd, ac o lewenydd am danaw, ef a dynn heibio, ac a werth oll ar a vedd, ac a brym y maes hwnw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor a guddiwyd yn y maes, yr hwn wedi ei gaffael gan ddyn, a guddiodd efe, ac o’i lawenydd myned ymaith y mae, a’r cwbl, cymmaint ag sydd ganddo, a wertha efe, a phrynu’r maes hwnw y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio yn y maes, yr hwn a gafodd dyn a’i guddio, ac yn ei lawenydd y mae’n mynd ac yn gwerthu’r cwbl sy ganddo, ac yn prynu’r maes hwnnw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a'i cuddiodd, ac o lawenydd amdano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu'r hyn oll a fedd, ac yn prynu'r maes hwnnw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae teyrnasiad yr Un nefol fel trysor wedi ei guddio mewn cae. Dyma rywun yn ei ffeindio ac yna'n ei guddio eto. Wedyn mynd yn llawen a gwerthu popeth oedd ganddo er mwyn gallu prynu'r cae hwnnw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i drysor wedi ei guddio mewn maes; pan ddaeth rhywun o hyd iddo, fe'i cuddiodd, ac yn ei lawenydd y mae'n mynd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo, ac yn prynu'r maes hwnnw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i drysor wedi ei guddio yn y maes, yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, efe a'i cuddiodd; ac o lawenydd am dano, y mae yn myned ymaith, ac yn gwerthu yr oll a fedd, ac yn prynu y maes hwnw.