Matthew 13:48 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hon wedi bo yn llawn, a ddugant ir lan, ac eistedd a wnant, a’ chlascy ’r ei da y mywn llestri, a’ thavly ’r ei drwc heibio.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac o bob rhyw y casglodd: yr hon, pan y’i llenwyd, wedi ei dwyn i fynu i’r lan, ac wedi eistedd i lawr, casglasant y rhai da mewn llestri, a’r rhai llwgr a fwriasant allan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a phan lanwodd, tynasant hi i’r lan, ac wedi eistedd cynullasant y rhai da i lestri, a bwrw ymaith y rhai sâl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i'r lan, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r pysgotwyr yn llusgo'r rhwyd lawn i'r lan. Wedyn mae'r pysgod da yn cael eu cadw a'u storio, ond y pysgod diwerth yn cael eu taflu i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd yn llawn, tynnodd dynion hi i'r lan ac eistedd i lawr a chasglu'r rhai da i lestri a thaflu'r rhai gwael i ffwrdd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hon wedi ei llenwi a ddygasant i fyny ar y traeth, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da i lestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg.