Matthew 13:52 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot ef wrthwynt, Can hynny pop Gwr‐llen yr hwn a ddyscir i deyrnas nefo edd, a gyffelypir i berchen tuy, yr hwn a ddwc allan oei dresawr newydd ion a’ hen ion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Do. Ac Yntau a ddywedodd wrthynt, O achos hyn pob ysgrifenydd wedi ei wneud yn ddisgybl i deyrnas nefoedd, cyffelyb yw i berchen tŷ, yr hwn sy’n bwrw allan o’i drysor bethau newydd a hen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrthynt, “Wrth hynny, pob ysgrifennydd a addysgwyd yn nheyrnas nefoedd, cyffelyb yw i ddyn o benteulu, a ddwg allan o’i drysor bethau newydd a hen.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna meddai wrthyn nhw, “Felly mae pob athro yn yr ysgrifau sanctaidd sydd wedi ymostwng i deyrnasiad yr Un nefol fel perchennog tir sy'n dod â thrysorau newydd a hen allan o'i ystordy.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Am hynny," meddai ef wrthynt, "y mae pob ysgrifennydd a ddaeth yn ddisgybl yn nheyrnas nefoedd yn debyg i berchen tu375? sydd yn dwyn allan o'i drysorfa bethau newydd a hen."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Am hyny pob ysgrifenydd yr hwn a wnaed yn ddysgybl i Deyrnas Nefoedd, sydd gyffelyb i ddyn sydd i feistr ty, yr hwn sydd yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen.