Matthew 13:54 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac yd aeth ef y’w wlat y un, ac ei dyscawdd yn y synagogae wy, yny synnodd arnynt, gan ddywedyt, O b’le y doeth y doethinep hyn a’r gwethredoed‐nerthol ir dyn hwn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac, wedi dyfod i’w wlad Ei hun, dysgai hwynt yn eu sunagog fel y bu aruthredd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y mae gan hwn y doethineb hwn a’r gwyrthiau?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth i’w gynefin a’u dysgu hwynt yn eu synagog, nes iddynt synnu a dywedyd, “O ba le y daeth i hwn y ddoethineb hon a’r grymusterau?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaeth i'w wlad ei hun, ac a'u dysgodd hwynt yn eu synagog; fel y synnodd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y daeth y doethineb hwn, a'r gweithredoedd nerthol i'r dyn hwn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
i Nasareth lle cafodd ei fagu. Dechreuodd ddysgu'r bobl yn eu synagog, ac roedden nhw'n rhyfeddu ato. “Ble gafodd hwn y fath ddoethineb, a'r gallu yma i wneud gwyrthiau?” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi dod i fro ei febyd, yr oedd yn dysgu yn eu synagog hwy, nes iddynt synnu a dweud, "O ble y cafodd hwn y ddoethineb hon a'r gweithredoedd nerthol hyn?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ddyfod i'w wlad ei hun, yr oedd efe yn eu dysgu hwynt yn eu synagog, yn gymmaint ag iddynt synu a dywedyd, O ba le y daeth i'r dyn hwn y doethineb hwn a'r galluoedd nerthol?