Matthew 13:57 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a rwystrit yntho. Yno y dyvot yr Iesu wrthwynt, Ny d yw Prophwyt eb anrydedd anyd yn ei wlat y un, ac yn y duy ehun.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thramgwyddwyd hwynt Ynddo. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw prophwyd yn ddianrhydedd, oddieithr yn ei wlad ei hun ac yn ei dŷ ei hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thramgwydd oedd iddynt. A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei gynefin ac yn ei gartref.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a rwystrwyd ynddo ef. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw: “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn yr ardal lle cafodd ei fagu, a chan ei deulu ei hun!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt. Dywedodd Iesu wrthynt, "Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac yn ei gartref."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a rwystrwyd ynddo ef. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei wlad ac yn ei dy ei hun.