Matthew 13:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy cyfody yr haul, y crasasont, ac o eisiae gwreiddio, y crinesont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r haul wedi codi, poethasant, a chan nad oedd ganddynt wreiddyn, gwywasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan gododd yr haul, fe’u deifiwyd; ac am nad oedd iddynt wreiddyn, gwywasant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond wedi i'r haul godi fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond wedi i'r haul godi deifiwyd hwynt, ac am nad oedd iddynt wreiddyn, hwy a wywasant.