Matthew 13:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rei hefyd a gwympesont mewn tir da, ac a ddyg e sont ffrwyth, vn gronyn ar ei ganfed, arall ar ei drigeinfed, arall ar ei ddecved ar vgain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac eraill a syrthiasant ar y tir da; a dygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, a pheth ar ei dri-ugeinfed, a pheth ar ei ddegfed ar hugain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac eraill a syrthiodd ar y tir da; a rhoi ffrwyth, peth gant, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno — beth ohono gan gwaith, chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na chafodd ei hau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A syrthiodd eraill ar dir da a ffrwytho, peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ereill a syrthiasant ar y tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ei ganfed, peth ei dri ugeinfed, a pheth ei ddegfed ar hugain.