Matthew 14:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ ei ddiscipulon ef a ðaethant, ac a gymersant y gorph ef ac ei claddesont, ac aethont ac a ddywedesont, i’r Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth ei ddisgyblion a chymmerasant y gelain; a chladdasant ef; a daethant a mynegasant i’r Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth ei ddisgyblion, a chymryd ei gorff ef a’i gladdu; a daethant i fynegi i’r Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a'i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i'r Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddisgyblion Ioan yn cymryd y corff a'i gladdu, ac wedyn yn mynd i ddweud wrth Iesu beth oedd wedi digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth ei ddisgyblion a mynd 'r corff ymaith a'i gladdu, ac aethant ac adrodd yr hanes wrth Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i ddysgyblion ef a ddaethant, ac a gymmerasant i fyny y corff, ac a'i claddasant ef; ac a aethant ac a fynegasant i'r Iesu.