Matthew 14:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A’ gwedy y mynd hi yn hwyr, y daeth ei ddiscipulon attaw, can ddywedyt, Diffaith yw’r lle yma, a’r awr aeth heibio: gellwng y dyrva ymaith, i vyned ir dinasoeð y bryny yddyn vwydydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hwyr wedi dyfod, daeth y disgyblion Atto, gan ddywedyd, Anial yw y lle, a’r awr weithian a aeth heibio: gollwng ymaith y dyrfa, fel, wedi myned ymaith i’r pentrefi, y prynont iddynt eu hunain fwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddi hwyrhau, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, “Anghyfannedd yw’r lle, ac y mae’r amser bellach ar ben; gan hynny gollwng y tyrfaoedd, fel yr elont i’r pentrefydd i brynu bwyd iddynt eu hunain.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hi'n dechrau nosi, felly dyma'r disgyblion yn dod ato a dweud, “Mae'r lle yma'n anial ac mae'n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd, iddyn nhw gael mynd i'r pentrefi i brynu bwyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel yr oedd yn nosi daeth ei ddisgyblion ato a dweud, "Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr. Gollwng y tyrfaoedd, iddynt fynd i'r pentrefi i brynu bwyd iddynt eu hunain."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth yr hwyr, daeth y Dysgyblion ato gan ddywedyd, Y lle sydd annghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng ymaith y torfeydd, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fwyd.