Matthew 14:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e orchymynawð ir dorf eisteð ar y gwellt glas, ac a gymerth y pemp torth a’r ddau bysc odyn, ac a edrychawdd i vyny dd tu ar nef, ac a vendithiodd, ac a dores, ac a roes y torthae y’w ddiscipulon, a’r discipulon ir dyrva.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd led-orwedd ar y glaswellt, a chymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac wedi edrych i fynu tua’r nef, bendithiodd; ac wedi torri, rhoddodd y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi gorchymyn i’r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, fe gymerth y pum torth a’r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i’r nef, gofynnodd fendith, a thorrodd y torthau a’u rhoddi i’r disgyblion, a rhoes y disgyblion hwynt i’r tyrfaoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi gorchymyn i'r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua'r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r torfeydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dwedodd wrth y bobl am eistedd i lawr ar y glaswellt. Wedyn cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a rhoi'r torthau i'w ddisgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi gorchymyn i'r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a rhoddodd hwy i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi gorchymyn i'r torfeydd eistedd ar y glaswellt, a chymmeryd y pum' torth a'r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny i'r nef, ac a fendithiodd ac a dorodd ac a roddodd y torthau i'r Dysgyblion, a'r Dysgyblion i'r torfeydd.