Matthew 14:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy oll a vwytesont, ac wy a ddigonwyt. Ac a godesont o’r briw uvvyt oedd yngweðill saith bascedeit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bwyttasant oll, a digonwyd hwynt: a chodasant yr hyn oedd dros ben o’r briwfwyd, ddeuddeg cawell yn llawn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bwytasant oll, a diwallwyd hwynt, a chodasant yr hyn a oedd yn weddill o’r darnau, ddeuddeg basgedaid lawn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o'r briwfwyd oedd yng ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau oedd wedi eu gadael dros ben.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bwytasant oll a chael digon, a chodasant ddeuddeg basgedaid lawn o'r tameidiau oedd dros ben.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digoni; ac a godasant weddill y briwfwyd, ddeuddeg basgedaid yn llawn.