Matthew 14:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Ac yn y van y cym p ellodd yr Iesu ei ddiscipulon i vyned mewn llong, a’ myned trosodd oei vlaen, tra dd anfonei ef y dyrfa ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn uniawn y cymhellodd Efe y disgyblion i fyned i’r cwch, ac i fyned o’i flaen Ef i’r lan arall, tra y gollyngai ymaith y torfeydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yna parodd i’r disgyblion fynd i’r llong, a mynd o’i flaen i’r ochr arall, nes iddo ef ollwng y tyrfaoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i fyned i'r llong, ac i fyned i'r lan arall o'i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna'n ddi-oed gwnaeth i'r disgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, tra byddai ef yn gollwng y tyrfaoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd y perodd efe i'r Dysgyblion fyned i gwch, ac i'w ragflaenu i'r lan arall, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y torfeydd.