Matthew 14:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy iddo dd anvon y dyrfa ymaith, ef escennawdd ir mynyd vvrtho ehun i weddiaw: a’ gwedy y hwyrhai hi, ydd oedd ef yno yn vnic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi gollwng ymaith y torfeydd, esgynodd i’r mynydd ar Ei ben Ei Hun, i weddïo; a’r hwyr wedi dyfod yr oedd Efe yno yn unig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi gollwng ohono’r tyrfaoedd, aeth i fyny i’r mynydd wrtho’i hun i weddïo. Ac wedi iddi hwyrhau yr oedd ef ar ei ben ei hun yno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a esgynnodd i'r mynydd wrtho ei hun, i weddïo: ac wedi ei hwyrhau hi, yr oedd efe yno yn unig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl iddo anfon y dyrfa adre, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo. Roedd yno ar ei ben ei hun ac roedd hi'n nosi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi eu gollwng aeth i fyny'r mynydd o'r neilltu i weddo, a phan aeth hi'n hwyr yr oedd yno ar ei ben ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ollwng ymaith y torfeydd, efe a esgynodd i'r mynydd o'r neilldu, i weddio; a phan ddaeth yr hwyr, yr oedd efe yno yn unig.