Matthew 14:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welodd ei ddiscipulon ef yn rhoddiaw ar y mor, y cythrwblit wy gan ddywedyt, Drychioleth yd yw, ac a waeddeson rac ofn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r disgyblion wedi Ei weled Ef ar y môr, yn rhodio, a gythryflwyd, gan ddywedyd, Drychiolaeth yw, a chan ofn y gwaeddasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r disgyblion wrth ei weled yn cerdded ar y môr a gyffrowyd, ac meddant, “Drychiolaeth yw,” ac yn eu braw rhoesant waedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw. A hwy a waeddasant rhag ofn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd y disgyblion e'n cerdded ar y llyn, roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Ysbryd ydy e!” medden nhw, gan weiddi mewn ofn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y disgyblion ef yn cerdded ar y mr, dychrynwyd hwy nes dweud, "Drychiolaeth yw", a gweiddi gan ofn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd y Dysgyblion ef ar y môr yn rhodio, hwy a gythryblwyd, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw! A hwy a waeddasant gan ofn.