Matthew 14:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Herod a ddaliesei Ioan ac ei rhwymesei, ac ei dodesei yn‐carchar o bleit Herodias, gwraic Philip y vrawt ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys Herod, wedi cymmeryd gafael yn Ioan, a’i rhwymodd ac a’i dododd yngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys Herod a ddaliodd Ioan, a’i rwymo a’i ddodi yng ngharchar o achos Herodias gwraig Phylip ei frawd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai, ac a'i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Herod oedd wedi arestio Ioan Fedyddiwr a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias, gwraig ei frawd, Philip.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr oedd Herod wedi dal Ioan a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Herod a ddaliodd Ioan, ac a'i rhwymodd, ac a'i dododd yn y carchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd ef.