Matthew 14:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
An’d pan welawdd ef wynt cardarn, yr ofnawdd: a’ phan ddechreuawdd suddo y llefawð, gan ddywedyt, Arglwydd, cadw vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wrth weled y gwynt, dychrynwyd ef; ac wedi dechreu suddo, gwaeddodd, gan ddywedyd, Arglwydd, achub fi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond wrth ganfod y gwynt fe ofnodd; a phan ddechreuodd suddo, gwaeddodd gan ddywedyd, “Arglwydd, achub fi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan welodd ef y gwynt yn gryf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan welodd mor gryf oedd y gwynt, roedd arno ofn. Dechreuodd suddo, a gwaeddodd allan “Achub fi, Arglwydd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan welodd rym y gwynt brawychodd, ac wrth ddechrau suddo gwaeddodd, "Arglwydd, achub fi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan welodd efe y gwynt, efe a ofnodd; a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, achub fi.