Matthew 14:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn y man yr esten d awdd yr Iesu ei law, ac ymavlodd ynthaw, ac y dyvot wrtho, A dydi vychan o ffyð, paam y petruseist?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn uniawn yr Iesu, wedi estyn Ei law, a ymaflodd ynddo, ac a ddywedodd wrtho, O ddyn o ychydig ffydd, paham yr ammeuaist?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn y fan estynnodd yr Iesu ei law a gafaelodd ynddo, ac medd wrtho, “Y bychan ei ffydd, paham y petrusaist?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y man yr estynnodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n estyn ei law allan a gafael ynddo. “Ble mae dy ffydd di?” meddai wrtho, “Pam wnest ti amau?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Estynnodd Iesu ei law ar unwaith a gafael ynddo gan ddweud, "Ti o ychydig ffydd, pam y petrusaist?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd yr Iesu a estynodd ei law, ac a ymaflodd ynddo, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham yr amheuaist?