Matthew 14:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan i adnabu gwyr y van hono ef o, ys d anfonesāt ir wlat hono o y amgylch, ogylch, ac a ddygesont attaw yr ei oll oedd yn gleifion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chan Ei adnabod Ef, gwŷr y fan honno a anfonasant i’r holl wlad honno o amgylch, a dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan adnabu gwŷr y lle hwnnw ef, anfonasant i’r holl gymdogaeth honno, a dygasant ato yr holl gleifion,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i'r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r dynion yno yn nabod Iesu, ac yn anfon i ddweud wrth bawb drwy'r ardal i gyd. Roedd pobl yn dod â phawb oedd yn sâl ato
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Adnabu pobl y lle hwnnw ef, ac anfonasant i'r holl gymdogaeth honno, a daethant 'r cleifion i gyd ato,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan adnabu gwŷr y lle hwnw ef, hwy a anfonasant i'r holl wlad hono o amgylch, ac a ddygasant ato yr holl gleifion;