Matthew 14:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a atolygont iddo gael cyfwrdd ac emyl yn y wisc ef yn vnic: a chynnifer ac a gyfyrddawð a hi, a iachawyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac attolygasant Iddo gael ond cyffwrdd o honynt ag ymyl Ei gochl; a chynnifer ag a gyffyrddasant, a wnaethpwyd yn holl-iach.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a deisyf arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd â thasel ei fantell; a chynifer ag a gyffyrddodd a iachawyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddodd, a iachawyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac erfyn arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd ag ymyl ei fantell. A llwyr iachawyd pawb a gyffyrddodd ag ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynnifer a gyffyrddodd a wnaed yn holliach.