Matthew 14:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Ioan a ddyvot wrthaw, Nid deddfol y ti y chahel hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys dywedodd Ioan wrtho, Nid yw gyfreithlawn i ti fod â hi genyt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys dywedai Ioan wrtho, “Ni ddylai fod hon yn wraig i ti.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlon i ti ei chael hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro: “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti ei chymryd hi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Ioan wedi dweud wrtho, "Nid yw'n gyfreithlon i ti ei chael hi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys dywedodd Ioan wrtho, Nid yw gyfreithlawn i ti ei chael hi.