Matthew 14:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan oedd yn ei vryd y roi ef yw varwolaeth, ef ofnoð y dyrva, can ys wy y cymerent ef val prophwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac er ewyllysio o hono ei ladd ef, ofnodd y dyrfa, canys megis prophwyd y cymmerent ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd am ei ladd ond ofnodd y dyrfa, canys ystyrient ef yn broffwyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a'i cymerent ef megis proffwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er bod Herod eisiau lladd Ioan, roedd ganddo ofn gwneud hynny am fod y bobl yn ystyried Ioan yn broffwyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac er bod Herod yn dymuno ei ladd, yr oedd arno ofn y bobl, am eu bod yn ystyried Ioan yn broffwyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe yn ewyllysio ei ladd ef a ofnodd y dyrfa; canys hwy a'i cyfrifent ef fel proffwyd.