Matthew 14:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yhi wedy hi addyscy gan hei mam, a ddyvot, Dyro i mi yma ben Ioan Vatyddiwr mewn descl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hithau, wedi ei hannog gan ei mam, Dyro i mi, ebr hi, yma, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hithau, wedi ei chyfarwyddo gan ei mam, “Dyro i mi,” meddai hi, “yn y fan yma ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gyda'i mam yn ei hannog, dwedodd wrtho, “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr, a'i roi i mi ar hambwrdd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar gyfarwyddyd ei mam, dywedodd hi, "Rho i mi, yma ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hithau, wedi ei hannog yn mlaen gan ei mam, a ddywed, Dyro i mi yma ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.