Matthew 15:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hyn aa y mevvn ir genae, ny’s haloga ddyn, n anyn yr hyn a ddaw allan o’r genae, hyny a haloga ddyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid yr hyn sy’n myned i mewn i’r genau sy’n halogi dyn, eithr yr hyn sy’n dyfod allan o’r genau, hyn sy’n halogi dyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid yr hyn sy’n mynd i mewn i’r genau sy’n halogi dyn, eithr yr hyn sy’n dyfod allan o’r genau, hynny sy’n halogi dyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r genau, sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hynny sydd yn halogi dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim beth dych chi'n ei fwyta sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛; y pethau dych chi'n eu dweud sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yr hyn sy'n mynd i mewn i enau rhywun sy'n ei halogi, ond yr hyn sy'n dod allan o'i enau, dyna sy'n halogi rhywun."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid yr hyn sydd yn myned i fewn i'r genau sydd yn halogi y dyn, ond yr hyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hyny sydd yn halogi y dyn.