Matthew 15:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr y pethae a ddant allan o’r genae, ’sy yndyvot o’r galon, ac h wy a halogant ddyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond y pethau sy’n dyfod allan o’r genau, o’r galon y deuant allan, a hwynt-hwy a halogant ddyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y pethau sy’n dyfod allan o’r genau, o’r galon y deuant, a’r rheini sy’n halogi dyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau, sydd yn dyfod allan o'r galon; a'r pethau hynny a halogant ddyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r pethau dych chi'n eu dweud yn dod o'r galon, a dyna sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae'r pethau sy'n dod allan o'r genau yn dod o'r galon, a dyna'r pethau sy'n halogi rhywun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau a ddeuant allan o'r galon; a hwy sydd yn halogi y dyn.