Matthew 15:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, gwraic o Canaan a ddaeth or goror hynny, ac a lefawdd, can ddywedyt wrthaw, Trugarha wrthyf, Arglwydd, vap Dauid: y mae vymerch i mewn poen resynawl gan gythraul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, gwraig o Canaan, wedi dyfod allan o’r cyffiniau hyny, a waeddodd, gan ddywedyd, Tosturia wrthyf, Arglwydd, Fab Dafydd: fy merch a boenir yn dost gan gythraul.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyna wraig o Gananëes o’r gororau hynny yn dyfod allan ac yn gweiddi gan ddywedyd, “Tosturia wrthyf, Arglwydd, fab Dafydd; blinir fy merch yn arw gan gythraul.” Yntau nid atebodd iddi air.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o'r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth gwraig ato (gwraig o'r ardal oedd o dras Cananeaidd), a gweiddi, “Arglwydd, Fab Dafydd, helpa fi! Mae fy merch yn dioddef yn ofnadwy am ei bod yng ngafael cythraul.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma wraig oedd yn Ganaanes o'r cyffiniau hynny yn dod ymlaen a gweiddi, "Syr, trugarha wrthyf, Fab Dafydd; y mae fy merch wedi ei meddiannu gan gythraul ac yn dioddef yn enbyd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele wraig oedd Ganaanëes a ddaeth allan o'r cyffiniau hyny, ac a lefodd, gan ddywedyd, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: fy merch a feddiannir yn ddrwg gan gythraul.