Matthew 15:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr nyd atepawdd ef yddi vn gair. Yno y daeth ei ddiscipulon ataw, ac a atolygesont iddo, can ddyweðyt, Danvon y hi ymaith canys mae hi yn llefain ar ein h’ol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe nid attebodd iddi air. Ac wedi dyfod Atto, Ei ddisgyblion a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith, canys gwaeddi ar ein hol y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth ei ddisgyblion ymlaen, a gofyn iddo, “Gollwng hi ymaith, canys y mae hi’n llefain o’n hôl.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr nid atebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion ato, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth Iesu ddim ymateb o gwbl. A dyma'i ddisgyblion yn dod ato a phwyso arno, “Anfon hi i ffwrdd, mae hi'n boen yn dal ati i weiddi ar ein holau ni!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid atebodd ef un gair iddi. A daeth ei ddisgyblion ato a gofyn iddo, "Gyr hi i ffwrdd, oherwydd y mae'n gweiddi ar ein hl."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr nid atebodd efe air iddi. A daeth ei Ddysgyblion, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hol.