Matthew 15:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny hi a ddeuth ac y addolawdd ef, can ddywedyt, Arglwydd cymporth vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hithau a ddaeth ac a’i haddolodd Ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymmorth fi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Daeth hithau, ac ymgrymu iddo gan ddywedyd, “Syr, cymorth fi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond hi a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymorth fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r wraig yn dod a phenlinio o'i flaen. “Helpa fi, Arglwydd!” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond daeth hithau ac ymgrymu iddo gan ddweud, "Syr, helpa fi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond hi a ddaeth, ac a ymgrymodd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, cymhorth fi.