Matthew 15:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepawdd yr Iesu, ac ydyvot wrthei. Ha wreic, mawr yw dy ffydd: bid y‐ty, mal y mynych. A’hei merch a iachawyt yn yr awr honno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna, gan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr ewyllysi. Ac iachawyd ei merch o’r awr honno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna atebodd yr Iesu a dywedodd wrthi, “O wraig, mawr yw dy ffydd; boed i ti fel y mynni.” Ac iachawyd ei merch o’r awr honno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A'i merch a iachawyd o'r awr honno allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Wraig annwyl, mae gen ti lot o ffydd! Cei beth ofynnaist amdano.” A dyna'r union adeg y cafodd ei merch ei hiacháu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna atebodd Iesu hi, "Wraig, mawr yw dy ffydd; boed iti fel y mynni." Ac fe iachawyd ei merch o'r munud hwnnw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna yr atebodd yr Iesu ac a ddywedodd wrthi, O wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A iachawyd ei merch o'r awr hono.