Matthew 15:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a atepawdd ac a ddyvot wrthwynt, A’ phaam ydd y‐chwi yn tori gorchymyn Dew gan eich arddodiad chwi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Paham hefyd yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yntau iddynt, “Paham y troseddwch chwithau orchymyn Duw oherwydd eich traddodiad chwi?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “A pham dych chi'n mynd yn groes i orchymyn Duw er mwyn cadw'ch traddodiadau?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau hwy, "A pham yr ydych chwithau yn troseddu yn erbyn gorchymyn Duw er mwyn eich traddodiad?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych chwi hefyd yn troseddu gorchymyn Duw o herwydd eich traddodiad chwi?