Matthew 15:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a ddaeth ataw dyrvae mawrion a’ chanthwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer, ac eu bwrieson y lavvr wrth draet yr Iesu, ac ef y iachaodd h wy,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth Atto dorfeydd mawrion, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer, a bwriasant hwynt wrth Ei draed Ef, ac iachaodd Efe hwynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth ato dyrfaoedd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, anafusion, deillion, mudion, a llawer eraill, a bwriasant hwynt wrth ei draed ef; ac fe’u hiachaodd hwynt;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a'u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a'u hiachaodd hwynt:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth tyrfaoedd mawr o bobl ato, gyda phobl oedd yn gloff, neu'n ddall, neu'n anabl, neu'n fud. Cawson nhw eu gosod o'i flaen, a iachaodd nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a daeth tyrfaoedd mawr ato yn dwyn gyda hwy y cloff a'r dall, yr anafus a'r mud, a llawer eraill; gosodasant hwy wrth ei draed, ac iachaodd ef hwy,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac ereill lawer; a hwy a'u taflasant i lawr wrth ei draed, ac efe a'u hiachaodd hwynt: