Matthew 15:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yny ryveddawdd y dyrva, weled y mution yn dywedyt, yr anafusion yn iach, a’r cloffion yn cerddet, ar daillion yn gweled: a’ gogoneddy Dyw yr Israel awnaethont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y bu i’r dyrfa ryfeddu wrth weled mudion yn llefaru, anafusion yn iach, a chloffion yn rhodio, a deillion yn gweled: a gogoneddasant Dduw Israel.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nes synnu o’r dyrfa weled mudion yn llefaru, anafusion yn iach, a chloffion yn rhodio a deillion yn gweled; a gogoneddent Dduw Israel.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y bobl wedi eu syfrdanu wrth weld y mud yn siarad, pobl anabl wedi cael eu hiacháu, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld. A dyma nhw'n dechrau moli Duw Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
er syndod i'r dyrfa wrth weld y mud yn llefaru, yr anafus yn holliach, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld; a rhoesant ogoniant i Dduw Israel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y rhyfeddodd y torfeydd wrth weled y mudion yn llefaru, yr anafusion yn iach, a'r cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled; a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.