Matthew 15:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ ei ddiscipulon a ddyvot wrtho, O b’le y caem ni gynniver o vara yn y diffeith vvch, ac y caffei dyrva gymeint, ei gwala?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd y disgyblion Wrtho, O ba le y bydd genym mewn anialwch dorthau gymmaint ag i ddigoni tyrfa mor fawr?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac medd ei ddisgyblion wrtho, “O ba le y cawn ni mewn diffeithwch ddigon o fara i ddiwallu cymaint o dyrfa?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai'r disgyblion, “Ble gawn ni ddigon o fara i fwydo'r fath dyrfa mewn lle mor anial!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd y disgyblion wrtho, "O ble, mewn lle anial, y cawn ddigon o fara i fwydo tyrfa mor fawr?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Dysgyblion a ddywedant wrtho, Pa le y caem ni gynnifer o dorthau yn y diffaethwch fel y digonid tyrfa gymmaint?