Matthew 15:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a ddyvot yr Iesu wrthynt, Pasawl torth ’sy genwch? A’ hvvy dywedesont, Saith, ac ychydic byscod‐bychain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, Pa sawl torth sydd genych h? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac medd yr Iesu wrthynt, “Pa sawl torth sy gennych?” Dywedasant hwythau, “Saith, ac ychydig o fân bysgod.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedai wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Sawl torth o fara sydd gynnoch chi?” meddai Iesu. “Saith,” medden nhw, “a rhyw ychydig o bysgod bach.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd Iesu iddynt, "Pa sawl torth sydd gennych?" "Saith," meddent hwythau, "ac ychydig bysgod bychain."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywed wrthynt, Pa sawl torth sydd genych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.