Matthew 15:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vvy oll a vwytesont, ac a gawson ddigon: ac y godeson, o’r briw fvvyt oedd yn gweddill saith vascedeit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bwyttasant oll, a digonwyd hwynt. A chodasant yr hyn oedd dros ben o’r briwfwyd, saith cawellaid yn llawn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bwytaodd pawb ac fe’u diwallwyd, a gweddill y darnau a godasant yn saith gawellaid llawn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon; ac a godasant o'r briwfwyd oedd yng ngweddill, saith fasgedaid yn llawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bwytasant oll a chael digon, a chodasant lond saith cawell o'r tameidiau oedd dros ben.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a hwy oll a fwytasant ac a ddigonwyd; ac a godasant o weddill y briwfwyd saith fasgedaid yn llawn.